|
||
|
|
||
|
||
|
Crime prevention message / Neges atal troseddau |
||
|
Neges Ddwyieithog / Bilingual Message. Crime prevention messageHello Resident
Its #OpSceptre, Knife Awareness Week.
Please refer to our website for crime prevention advice : Crime prevention advice | South Wales Police (south-wales.police.uk) Do you need to speak to the police but don’t require an emergency response? You can make an online report via our website https://www.south-wales.police.uk, send us a private message via Live Chat, or call 101. In an emergency always dial 999. Neges atal troseddauShwmae Resident Sylwch ein bod wedi nodi cynnydd yn (INSERT CRIME TYPE IN WELSH HERE) yn (Insert place name here).
#OpSceptre ydy hi, Wythnos Ymwybyddiaeth Cyllyll. Bydd eich Tîm Plismona Cymdogaeth lleol yn y Mwmbwls a West Cross allan ac yn rhoi cyngor a gwybodaeth ar amlygu Ymwybyddiaeth Cyllyll yn eich cymuned. #NidYrUn #OpSceptre #yneichCymuned "Gall digwyddiadau sy'n cynnwys cyllyll gael canlyniadau trasig. Nid yw troseddau cyllyll yn rhan o fywyd bob dydd yn Ne Cymru, ond rydym yn cydnabod pwysigrwydd cymryd camau i atal problem rhag digwydd. Ymgyrch Sceptre yw ein dull o fynd i'r afael â throseddau cyllyll, a materion cysylltiedig â thrais difrifol a chyffuriau anghyfreithlon. Mae ein gwaith yn cynnwys gweithrediadau wedi'u targedu ac ymgysylltu ac addysg i sicrhau pobl ifanc eu bod yn fwy diogel peidio â chario cyllyll. "Gwybod y gyfraith Efallai eich bod yn ei thorri heb hyd yn oed sylweddoli. Mae'n anghyfreithlon: gwerthu cyllell i unrhyw un o dan 18 oed, oni bai bod ganddi lafn plygu 3 modfedd o hyd (7.62 cm) neu lai cario cyllell yn gyhoeddus heb reswm da, oni bai bod ganddi lafn plygu gydag ymyl torri 3 modfedd o hyd neu lai cario, prynu neu werthu unrhyw fath o gyllell waharddedig defnyddio unrhyw gyllell mewn ffordd fygythiol (hyd yn oed cyllell gyfreithlon) Mae unrhyw offeryn miniog a ddefnyddir mewn ffordd fygythiol (e.e. sgriwdreifer) hefyd yn arf ymosodol. Mae gan swyddogion heddlu'r hawl i atal a chwilio unrhyw berson neu gerbyd os ydynt yn amau trosedd, gan gynnwys meddu ar arf ymosodol. Gall y risg y gallai rhywun rydych chi'n ei adnabod fod yn cario cyllell neu y gallai fod wedi'i effeithio gan drosedd cyllell fod yn bryderus iawn a chodi llawer o gwestiynau. Cyngor i rieni Y ffordd orau o gadw pobl ifanc yn ddiogel yw siarad â nhw am y perygl. Gall siarad fod yn anodd, ond daliwch ati i geisio. Efallai bod eich mab neu ferch yn ofnus neu'n amharod i siarad. Efallai eu bod nhw'n meddwl bod angen iddyn nhw gario cyllell oherwydd eu bod nhw'n teimlo dan fygythiad. Chwiliwch am: Problemau yn yr ysgol neu amharodrwydd i fynd i'r ysgol Materion bwlio neu ddwyn eitemau personol Rhwydwaith newydd o ffrindiau Efallai y byddwch yn amau bod eich mab neu ferch yn cario cyllell. Er enghraifft, efallai y byddwch yn darganfod bod cyllell ar goll o'r gegin. Cyngor i fyfyrwyr Mae'n anghyfreithlon cario cyllell hyd yn oed os yw er eich diogelwch eich hun. Gall yr heddlu, ac athrawon yn yr ysgol, chwilio unrhyw un sy'n cael ei amau o gario cyllell. Drwy gario cyllell, gallech gael cofnod troseddol neu hyd yn oed dedfryd o garchar. Bydd hyn yn cael effaith ar ragolygon swyddi yn y dyfodol ac a ydych chi'n gallu teithio dramor i rai gwledydd. Mae cario cyllell yn cynyddu'r risg o gael eich anafu yn sylweddol. Gellir defnyddio eich cyllell eich hun yn eich erbyn neu gall rhywun ymosod arnoch mewn 'hunan-amddiffyn'. Sut fyddech chi'n teimlo pe bai brawd neu chwaer iau yn cario cyllell oherwydd eu bod wedi eich gweld chi'n ei wneud, a bod rhywbeth yn digwydd iddynt o ganlyniad? Rydym yn gweithio ochr yn ochr â sefydliadau partner i gefnogi ein hamcanion o gadw De Cymru'n ddiogel rhag troseddau cyllell. Os oes gennych chi amheuaeth bod rhywun yn cario cyllell, neu'n ymwneud â chyffuriau, gallwch gysylltu â'r heddlu ar 101, neu â Crimestoppers yn ddienw ar 0800 555111. Cyfeiriwch at ein gwefan am gyngor atal troseddau: Cyngor atal troseddau | Heddlu De Cymru (south-wales.police.uk) Oes angen i chi siarad â'r heddlu ond nad oes angen ymateb brys arnoch chi? Gallwch wneud adroddiad ar-lein trwy ein gwefan https://www.south-wales.police.uk, anfon neges breifat atom trwy Sgwrs Fyw, neu ffonio 101. Mewn argyfwng, ffoniwch 999 bob amser. Cyfeiriwch at ein gwefan am gyngor atal troseddau : Cyngor atal troseddau | Heddlu De Cymru (south-wales.police.uk) Oes angen i chi siarad â'r heddlu ond nid oes angen ymateb brys arnoch? Gallwch roi gwybod am fater ar-lein drwy ein gwefan https://www.south-wales.police.uk, anfonwch neges breifat atom drwy Sgwrs Fyw, neu ffoniwch 101. Mewn argyfwng, ffoniwch 999 bob amser.
(Delete: (Possible crime types in Welsh : Twyll – Fraud ; Difrod Troseddol – Criminal Damage ; Dwyn beiciau – Cycle Theft; Troseddau casineb – Hate crime; Rhwystr priffyrdd – Highways obstruction; Byrgleriaeth tŷ – House burglary; Beiciau modur niwsans – Nuisance motorbikes; Dwyn personol – Personal theft; Troseddau cerbydau – Vehicle crime)
| ||
Reply to this message | ||
|
|







